English
William Edward Julian Cayo-Evans
|
|
Glandenys, ym Mhlwyf Silian.
|
Gúr
neilltuol.
Ganed William Julian Cayo-Evans, neu ‘Cayo’ fel y’i
adwaenir, ar yr 22ain Ebrill 1937, ym mhlasty ‘Glandenys’.
Fe brynwyd ei rieni, John Cayo-Evans o Caio, Sir Gaerfyrddin a Freda
Cayo-Evans (gynt Cluneglas o Cellan, Ceredigion), yr adeilad yn
1933.
Fe gafodd Cayo addysg drylwyr, yn Millfield a Cirencester. Yma y
dewisodd ei lwybr ar gyfer y dyfodol yn wleidyddol ac yn broffesiynol.
Tyfodd i fod yn gymeriad lliwgar a hyderus gyda hoffter o geffylau.
Daeth yn enwog am fagu Cobiau Cymreig a bu’n ffermio Gwartheg
Duon Cymreig hefyd.
Fe briododd Gillianne Mary Davies, o Llangeitho, Ceredigion yn 1966,
gan ysgaru yn 1975, wedi cael tri o blant. Ond, gan ei fod yn hoff
o’i ferched, fe gafodd bump o blant arall.
|
Breuddwydio am Ryddid.
Fe alwyd Cayo i Fyddin Prydain yn 18 oed, ac fe fu ar wasanaeth
gweithredol yn Malaya. Achosodd y profiad hwn, ynghyd â diddordeb
byw mewn gwleidyddiaeth wedi iddo gael ei ysbrydoli gan athro o
Wlad Pwyl oedd yn dysgu yn Millfield, iddo chwerwi yn erbyn Llywodraeth
Prydain a’u camdriniaeth o Gymru.
Arweinodd hyn ato gymeryd rhan blaenllaw mewn ffurfio Byddyn Rhyddid
Cymru. Gyda Cayo yn bennaeth, bu aelodau'r fyddyn yn ymdeithio,
yn protestio, yn ymddangos ar y teledu mewn gwisgoedd swyddogol,
ac yn darlunio ir cyhoedd corff o wrthwynebiad dicllon yng
Nghymru. Gydag eraill, roeddent yn weithredol am gyfnod byr yn y
chwedegau, gydag ymgyrch a roddodd ysgytwad i Brydain.
Rhaid oedd gwneud enghraifft o rhywun ...
Wedi treial hir yn 1969, ychydyg cyn arwysgiad Y Tywysog Charles,
carcharwyd Cayo am dri ar ddeg mis yng nghwmni dau aelod arall,
sef Dennis Coslet a Gethyn Ap Iestyn. Fel carcharorion gwleidyddol
Categori A am droseddau yn erbyn y drefn, dioddefasant triniaeth
creulon a diradd, a chawsant eu caethiwo yn unigol am gyfnodau hir.
Llyfrau ar gael yma
o’r Lolfa
|

Y llyfr ynglín â’r
‘Free Wales Army’, gan Roy Clews a NEWYDD, 'Rebel Heart',
gan Dennis Coslett

|
|

Yr Angladd, Ebrill 1995
|
Dal i Freuddwydio.
Fe fu farw Cayo yn ei gartref ar Fawrth 28ain, 1995. Roedd yno
dyrfa enfawr yn yr eglwys a theimlad o dristwch ymysg nifer o’r
Cymry. Mae yna ganeuon amdano, y llyfr, ac yma ac acw gwelir y geiriau
‘Cofia Cayo’ wedi eu peintio. Mae’r golled yn
enfawr, am ei ddelfrydiaeth danbaid a’i bresenoldeb
carismatig.
Am ragor o fanylion,
cysylltwch.
|
Fe Godwn Ni Eto...
Roedd Cayo a’i hen griw o’r FWA yn cynnull
pob blwyddyn: i dalu teyrnged i Dywysog olaf Cymru, i hel atgofion,
ac i gael ychydig o hwyl. Byddant yn gorymdeithio i’r garreg,
adrodd areithiau tanbaid, dychwelyd i dafarn y ‘Prince of
Wales’ yng Nghilmeri, a rhannu peint neu ddau. Doedd yna ddim
cynulliad swyddogol fel y ceir heddiw. Bellach mae yna wasanaeth
dymunol ac ymgynulliad dwys a difrifol.
|

Cayo yng Nghilmeri, ble
codwyd Carreg er cof am ein Tywysog olaf - Llywelyn ‘Ein Llyw
Olaf’
|

'Y Cayo', Caerdydd
|
Y Cayo, Caerdydd.
Mae tafarn yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, wedi
ei henwi ar ôl Cayo. Agorwyd y ‘Cayo Arms’ yn
2000, gan hen ffrind, ac mae wedi ennill gwobrau am werthu’r
cwrw gorau yng Nghaerdydd. Mae yna gwrw wedi ei enwi er cof amdano
hefyd, ‘Cwrw Cayo’, sydd ar werth yn lleol yn ystod
gëyl enwog y beirdd yng Nghymru, yr Eisteddfod, a gwyliau eraill
Cymreig.
Os y byddwch yn ymweld â Chymru rhyw ddydd, gwnewch yn siwr
eich bod yn codi eich gwydr i’r gër hwn, Cayo-Evans;
os yn bosibl yn y Cayo Arms, Cathedral Road, Caerdydd, neu mewn
un o'r dafarnau gwych Ceredigion, yn enwedig yn Llambedr Pont Steffan.
Cymru Rhydd!
Cysylltu:
|
|
|
|
|
 |